Edrychwn ymlaen at gael croesawu band roc Bwca i Ffair Fwyd Diod a Chrefftau 2023 ym Mwlch Nant yr Arian Dydd Sadwrn 28ain o Hydref. 10yb – 4yp.
Bydd Bwca yn perfformio am 11yp a 2yp.
Gyda'r band wedi sefydlu erbyn hyn ers 2017 mae'r pedwar aelod wedi cydweithio i greu nifer o ganeuon wedi'u hysbrydoli gan dirwedd ardal Elenydd Mynyddoedd Cambrian.
"Rydyn yn edrych ymlaen i ymweld รข Bwlch Nant Yr Arian Ddydd Sadwrn yma. Bydd cyfle i cael rhagblas o gyfres o ganeuon rydyn yn gweithio arno hefyd." meddai Steff Ress, prif leisydd a chwareuwr.
"Mae'r band wedi ysgrifennu nifer o ganeuon dros y blynyddoedd gan gynnwys caneuon fel Tregaron, Hafod, Llwybr Leri ac Elvis Rock." ategodd Steff sydd ar y cyd gyda'i gyd-gerddorion Peter, Iwan a Hannah yn mwynhau gigio ar draws Cymru gyfan erbyn hyn.
"A pham Bwca?", dyma chi'n gofyn! Wel enw ar ryw fath o 'goblin' chwedlonol a thanddaearol yw Bwca, oedd yn ymddangos yn y pyllau glo yn Ne Cymru.
Dewch i wrando a chefnogi'r cynhyrchwyr lleol.
Mae cyfle i wrando ar fwy o ganeuon ym Mwlch Nant Yr Arian ar 28 Hydref 2023 rhwn 10yb a 4 yp neu drwy fynd i Spotify.
Cliciwch ar y logo uchod am ganeuon Bwca!